Eglwys Crist Llandinorwig (Deiniolen)
Eglwys Crist Llandinorwig (Deiniolen)
Ynglŷn â'r eglwys
Wedi'i lleoli uwchben pentref Deiniolen, mae tŵr eglwys hon yn codi'n ddramatig yn erbyn llethrau Elidir Fawr. Ar ddiwrnod clir, gall golygfeydd gyrraedd cyn belled ag Iwerddon. Y tu hwnt i'r eglwys, mae'r ffordd yn parhau i fyny at Chwarel Dinorwig. Mae'r fynwent yn dal llawer o feddau sy'n sôn am 'Ebeneser' – hen enw'r pentref – yn ogystal â Huw Robert Jones, un o aelodau sefydlu Plaid Cymru a ymgyrchodd yn llwyddiannus i'r pentref ddod yn adnabyddus fel 'Deiniolen'. Mae yna hefyd nifer o feddau rhyfel.
Ymweld â'r eglwys
Mae'r eglwys ar agor i ymwelwyr ar brynhawn Sadwrn dros yr haf ac ar adegau eraill trwy drefniant.
Fel arfer, cynhelir y gwasanaethau yn y Gymraeg ond rydym yn hapus i ddefnyddio digon o Saesneg i helpu ymwelwyr deimlo'r croeso! Bob mis mae gennym Hwyrol Weddi ar y Sul cyntaf a'r trydydd a Chymun ar yr ail a'r pedwerydd Sul. Mae amser gweddi hefyd ar ddydd Mawrth, 9.30yb.
Ychydig o hanes
Wedi'i chysegru ym 1857, mae'r eglwys yn enghraifft afieithus o arddull 'Addurnedig' Fictoraidd. Yn aml, byddai'r pensaer, Henry Kennedy, yn gweithio ar raddfa fwy cymedrol, fel y gwelir mewn llawer o eglwysi eraill ar draws yr esgobaeth. Yma, ella oherwydd cyllid hael gan berchennog Chwarel Dinorwig, Thomas Assheton Smith, mae gargoiliau y tu mewn a'r tu allan, cangell wedi'i haddurno ag angylion a'r meindwr uchel hwnnw. Mae gan yr eglwys bedyddfaen llechi anarferol a ddaeth yn wreiddiol o Eglwys St Mair, Dinorwig (a gaewyd yn y 1980au) a chofeb i dri oedolyn a naw o blant a foddwyd ar wibdaith Ysgol Sul i Bwllheli ym 1899 (pob un wedi'i gladdu ym mynwent yr eglwys).