St Michael, Llanrug
St Michael, Llanrug
Ynglŷn â'r eglwys
Mae eglwys Sant Mihangel, Llanrug bellach yng ngofal yr Eglwys yng Nghymru, ar ôl bod ar gau i addoli nifer o flynyddoedd yn ôl. Mae ‘Caffi Church’ yn cyfarfod am 11yb ar ddydd Sul cyntaf y mis yn yr Institiwt Llanrug, Station Rd. Mae croeso i ymwelwyr bob amser!
Mae Mynwent Eglwys Sant Mihangel yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Ardal Weinidogaeth Bro Eryri ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu rhaglen gynnal a chadw gynaliadwy. Ymhlith y 900 o feddau neu fwy mae man gorffwys General Syr Hugh Rowlands, y Cymro cyntaf i dderbyn Croes Victoria.