Ynglŷn â'r eglwys
Mae Eglwys Santes Helen wedi'i lleoli ym mhen gorllewinol pentref Penisarwaun, sy'n golygu 'y copa isaf ar y waun'. Mae'r dirwedd donnog, wedi'i chroesi gan lonydd cul, mewn cyferbyniad amlwg â'r mynyddoedd y tu hwnt. Mae cofeb ryfel y pentref yn sefyll ar ochr ddeheuol yr eglwys, lle gall golygfeydd Yr Wyddfa gynnwys cipolwg ar y rheilffordd mynydd yn pwffian i fyny i'r copa. Cafodd neuadd yr eglwys drws nesaf ei hadnewyddu trwy 'Brosiect Pum Mil' S4C ac mae ar gael i'w llogi.
Ymweld â'r eglwys
Mae'r eglwys fel arfer ar agor i ymweld ar ddydd Llun ac ar adegau eraill trwy drefniant.
Rydym yn cwrdd am wasanaeth Cymun am 11yb bob dydd Sul, ar wahân i'r 1af o'r mis pan fydd gennym Boreol Weddi. Mae'r gwasanaethau'n ddwyieithog ac mae lluniaeth yn eu dilyn bob amser yn neuadd yr eglwys. Mae'r neuadd hefyd yn cynnal cyfarfod wythnosol poblogaidd, Te a Thost, bob dydd Llun 10yb - hanner dydd.
Ychydig o hanes
Adeiladwyd Eglwys Santes Helen fel ‘eglwys genhadol’ ym 1883, yn ôl pob golwg mewn ymateb i ofnau George Duff Assheton-Smith (perchennog Chwarel Dinorwig) y gallai trigolion y pentref golli’r arfer o addoli’n rheolaidd neu hyd yn oed ddechrau mynd i’r capel! Mae’r adeilad yn gymedrol o ran maint ond yn brydferth o ran manylion, yn enwedig teils y gangell a’r waliau brics anarferol, wedi’u patrymu’n goch a melyn. Tybir weithiau bod y cysegriad i Santes Helen yn golygu Helena o Gonstantinople, mam yr Ymerawdwr Cystennin. Mewn gwirionedd, y cyfeiriad ydy at Elen, gwraig Macsen Wledig (Marcus Maximus, rheolwr gorllewin Ymerodraeth Rufeinig yn y 4ydd ganrif), a oedd â chysylltiadau cryf â’r ardal.