Naomi Starkey yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Ficer Bro Eryri. Mae hi'n mwynhau'r fraint o weithio mewn rhan brydferth o'r byd gyda thîm gwych o bobl!
Mae gan Andy John Ganiatâd i Weinyddiaethu yn Ardal Weinidogaeth Bro Eryri. Ar hyn o bryd mae'n rhannu cyfrifoldeb am nifer o raglenni allgymorth ac yn cynorthwyo Naomi gyda thasgau gweinyddol a sacramentaidd.
Jonno Jones yw Gweinidog Lleyg Trwyddedig yn Ardal Weinidogaeth Bro Eryri. Mae’n mwynhau pregethu, arwain addoliad, a gwasanaethu ar draws eglwysi a chymunedau Bro Eryri. Mae Jonno yn parhau â’i astudiaethau diwinyddol ac mae’n angerddol dros rannu’r ffydd Gristnogo. Mae’n gwerthfawrogi’n arbennig y cyfle i gerdded ochr yn ochr â phobl, cynnig croeso cynnes, a helpu eraill i ddarganfod bod lle i bawb o fewn teulu’r Eglwys.
Mae Eglwys Santes Helen wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ers y 10 mlynedd diwethaf ac mae wir yn teimlo fel cartref. Rwy'n mwynhau cyfarch pobl yn arbennig, cael sgwrs a helpu pawb i deimlo'n gartrefol ac wedi'u cynnwys. Rwy'n ymwneud ag addoliad, gweddïau, gweithgareddau teuluol a digwyddiadau eglwysig, ac rwyf hefyd nawr yn gwasanaethu fel Arweinydd Addoli ac aelod o'r MAC.
Cefais fy magu yn Nant Peris lle'r oeddwn yn mynychu'r Ysgol Sul yn Eglwys St Peris. Rwyf wedi bod yn aelod o Eglwys St Padarn ers symud i Lanberis i fyw pan oeddwn yn 11 oed. Bum yn athro Ysgol Sul am 12 mlynedd ac yna yn aelod o gyngor yr eglwys yn 1985. 'Rwyf yn Warden yn St Padarn a hefyd yn Warden yr Ardal Weinidogaeth ac Arweinydd Addoli.
Mae Anne Williams yn arweinydd addoliad yn yr Ardal Weinidogaeth ac yn aelod o'r Coleg Cyfarwyddwyr Ysbrydol, yn ogystal ag aelod y MAC. Ar hyn o bryd, mae hi'n archwilio ei galwedigaeth yn yr Eglwys.
Yn briod gyda 3 o blant, 5 o wyrion a 2 o or-wyrion, rydw i wedi mynd i'r Ysgol Sul a'r eglwys ers pan oeddwn i'n 3 oed ac yn 17 oed des i'n athrawes Ysgol Sul. Rydw i wedi bod yn rhan o fywyd yr eglwys lle bynnag rydw i wedi byw.
Len Jones is warden for Christ Church Llandinorwig (Deiniolen)
Mae Ed yn gynrychiolydd ar gyfer Eglwys Crist ac yn gofalu am y wefan.
Cefais fy magu yn yr ardal hon o 8 oed cyn symud i Lerpwl i weithio. Galwodd yr iaith Gymraeg a'r mynyddoedd arnaf a des i'n ôl i fyw yng Nghaernarfon tua 20 mlynedd yn ôl. Mae fy rhieni a'm hynafiaid wedi'u claddu ym Mynwent Eglwys Sant Deiniol, ac ymladdais yn galed—gyda chymorth y Parch. Brian Castle—i gael yr eglwys wedi'i hailagor ym mis Gorffennaf 2023. Rwy'n falch o wasanaethu fel ei warden ac yn cael pleser o ofalu amdano.